Yn ystod pandemig Coronafeirws mae angen i'r GIG fod yn fwy gwyliadwrus byth oherwydd bod risg twyll yn cynyddu. Mae Awdurdod Atal Twyll y GIG (NHS CFA) wedi cyhoeddi canllawiau ar ba gamau y gall y GIG a'r cyhoedd eu cymryd i liniaru risg twyll. Gellir gweld y canllawiau ar wefan NHS CFA https://cfa.nhs.uk.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae twyll yn erbyn GIG Cymru yn golygu bod yr arian a fwriadwyd ar gyfer gofal cleifion, sydd wedi’i ddarparu gan y trethdalwr, yn diweddu ym mhocedi’r rhai nad ydynt wedi ennill yr arian hwn yn gyfreithlon. Ein rôl yw dwyn y rhai sydd wedi cyflawni trosedd economaidd yn erbyn y GIG i gyfrif, gan ganfod troseddwyr, ymchwilio iddynt a’u herlyn.
Cymerwch olwg ar rai o’n herlyniadau llwyddiannus isod: