Neidio i'r prif gynnwy

Eiddo

Property
Mae'r adran eiddo yn darparu cyngor a chymorth arbenigol i GIG Cymru ac i Llywodraeth Cymru ynghylch pob agwedd ar dir ac eiddo, gan gynnwys:
 
  • Caffael a gwaredu – rydym yn rheoli'r gwaith o gaffael a gwaredu tir ac eiddo ar gyfer GIG Cymru.
  • Rheoli prydlesau – rydym yn delio â phob agwedd ar y gwaith o reoli prydlesi ac yn rhoi cyngor amdanynt, gan gynnwys: adnewyddu prydlesi, adolygiadau o renti, caffael a therfynu prydlesi, ffioedd gwasanaeth, dadfeiliadau, trwyddedau/MOTOs ayyb.
  • Rheoli eiddo – rydym yn delio â phob agwedd ar reoli eiddo ac yn rhoi cyngor amdano, gan gynnwys: hawddfreintiau, fforddfreintiau a hawliau eraill dros dir ac eiddo, cyfamodau ac anghydfodau, cymalau adfachu a gorswm, gwerthusiadau o dir ac eiddo, cyfraddau busnes, polisi cynllunio a Chynlluniau Datblygu Lleol.
  • Cronfa ddata ePIMS – rydym yn cynnal a chadw cronfa ddata e PIMS ar ran GIG Cymru
  • Y Portffolio Tir ac Eiddo – rydym yn rheoli ac yn cynnal y Portffolio Tir ac Eiddo (sef tirlyfr ystâd GIG Cymru)
  • Swyddfa luniadu – rydym yn llunio cynlluniau ystadau a mapiau i GIG Cymru ac yn mesur a chynnal arolygon o dir ac eiddo
  • Ailasesu rhenti meddygon teulu Gofal Sylfaenol – rydym yn cynnal gwerthusiadau rhent ar fwy na 600 o safleoedd meddygon teulu bob tair blynedd at ddibenion ad-dalu meddygon
  • Rheoli prydlesi ac eiddo Gofal Sylfaenol – rydym yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar reoli prydlesi ac eiddo yn y sector gofal sylfaenol
  • Gwella safleoedd a grantiau ar gyfer eiddo gofal sylfaenol
  • Datblygiadau Trydydd Parti – rydym yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau datblygu trydydd parti ym maes gofal sylfaenol ac yn eu cyllido
  • Datblygiadau cyfalaf – rydym yn cefnogi dyluniad a chynllun prosiectau datblygu gofal sylfaenol sydd wedi eu cyllido trwy gyfalaf
  • Rhoi cyngor ar ddogfennaeth prydlesi enghreifftiol ar gyfer safleoedd gofal sylfaenol
  • Cynnig cymorth ar ôl i brosiectau gael eu dylunio ac adolygu cynlluniau gofal sylfaenol o safbwynt sut maent yn gweithio, a chynnig adborth ar ôl prosiectau ar berfformiad contractwyr adeiladu a datblygwyr trydydd parti.

 

Lapp
(ar gael i gyflogeion GIG Cymru yn unig)
 
 
 

Y tîm

Clive Ball
Pennaeth Eiddo
 
Clive.Ball@wales.nhs.uk
Pob mater sy'n ymwneud ag eiddo
Andrew Nash
Uwch Syrfëwr Eiddo
 
Andrew.Nash@wales.nhs.uk
Rheolaeth prydles, Rheolaeth eiddo
Ceri Jones
Uwch Ymgynghorydd Ystadau ac Eiddo
 
Ceri.Jones24@wales.nhs.uk
Gofal sylfaenol
Steven Roberts
Syrfëwr Eiddo
 
Steven.Roberts5@wales.co.uk
Gofal sylfaenol
Carl Waskiewicz

Syrfëwr Eiddo

 
Carl.Waskiewicz@wales.nhs.uk

Rheolaeth prydles, Rheolaeth eiddo

Caroline Lewis
Syrfëwr Eiddo
 
Caroline.Lewis5@wales.nhs.uk
Gofal sylfaenol
Sian Cornwell-Shaw
Syrfëwr Eiddo
 
Sian.Cornwell-Shaw@wales.nhs.uk

Rheolaeth prydles, Rheolaeth eiddo

Adele Paterson
Syrfëwr Eiddo
  Adele.Paterson@wales.nhs.uk
Gofal sylfaenol
Steve Dinnick
Syrfëwr Eiddo
  Steve.Dinnick@wales.nhs.uk
Gofal sylfaenol
Cerys Halford
Syrfëwr Eiddo
 
Cerys.Halford@wales.nhs.uk

Rheolaeth prydles, Rheolaeth eiddo

Mark Miller
Property Officer 
  Mark.Miller2@wales.nhs.uk

Swyddog Lluniadau Portffolio tir ac eiddo

Jamie  Evans

Uwch Swyddog Technegol Cynorthwyol

  Jamie.Evans3@wales.nhs.uk
Swyddog Lluniadau
Ruchika Tripathi

Uwch Swyddog Technegol Cynorthwyol

  Ruchika.Tripathi@wales.nhs.uk
Swyddog Lluniadau