Mae’r adran hon yn ymdrin â’r agweddau hynny ar GIG Cymru sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddinasyddion ac mae’n rhoi arweiniad ar y Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru, y ddyletswydd ansawdd, diogelwch cleifion, effeithiolrwydd clinigol, etc; a disgwyliadau personol ehangach, gan gynnwys urddas mewn gofal, cydsyniad cleifion, darparu gwasanaethau yn Gymraeg a gofal ysbrydol.
Nid yw rhoi’r dinesydd yn gyntaf yn gyfystyr â rhoi i ddinasyddion bopeth y maent yn ei ddymuno – weithiau bydd gan wahanol bobl ddymuniadau gwahanol. Ymagwedd gorfforaethol ydyw sy’n rhoi buddiannau’r dinesydd yn gyntaf, cyn buddiannau’r sefydliad.
Mae gan y term “dinesydd” ddiffiniad eang ac mae’n golygu unrhyw un sy’n derbyn, neu sy’n cael ei effeithio gan, wasanaethau cyhoeddus. Felly, yn GIG Cymru, cleifion yw’r dinasyddion amlwg; ond y mae eraill y mae’n rhaid i GIG Cymru eu hystyried – perthnasau cleifion, er enghraifft. Gall sefydliadau ddiffinio hyn mewn gwahanol ffyrdd – claf, defnyddiwr gwasanaeth, derbynwyr gwasanaeth, etc. Nid oes cymaint o ots am yr enw. Yr agwedd a’r diwylliant sefydliadol sy’n bwysig.
Mae rhoi’r dinesydd yn gyntaf yn golygu addasu’r hyn a wna sefydliad a’r ffordd y bydd yn darparu gwasanaethau i gyd-fynd â dymuniadau ei ddinasyddion, i’r graddau y gall o fewn ei gyfyngiadau ei hun. Mae’n golygu’r gallu i edrych ar yr hyn y mae’n ei ddarparu o safbwynt y dinesydd.