Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol

GP Indeminty Team

Mae'r dudalen we hon yn cael ei hadolygu a'i diweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu newidiadau sy'n deillio o gyflwyno Gwrando ar Bobl: Proses cwynion, digwyddiadau ac iawn GIG Cymru.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra tra bod y diweddariadau hyn yn cael eu cwblhau.

Pwy ydym ni

Tîm o gyfreithwyr medrus iawn sydd â ffocws penodol ac arbenigedd wrth reoli hawliadau esgeulustod clinigol.

Am ymholiadau brys, cysylltwch â'r Tîm GMPI ar ein llinell gymorth 029 21 500 554 neu drwy e-bost GMPI@wales.nhs.uk. Sgroliwch i lawr am y Cwestiynau Cyffredin am y cynllun.

 

Beth rydym yn ei wneud

  • Rydym wedi ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol o 1 Ebrill 2019. Nid yw’r trefniant cychwynnol ond yn berthnasol i rwymedigaethau’r dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y rhwymedigaethau presennol ac yswiriant sy’n parhau ar ôl i ymarferwyr roi’r gorau i weithio (‘run-off cover’) ar ei thudalennau Cwestiynau Cyffredin.
  • Mae’r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yn rhoi indemniad esgeulustod clinigol ar gyfer y rheiny sy’n darparu gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru rhag iawndaliadau yn sgil gofal, diagnosis a thriniaeth claf yn dilyn digwyddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019. Mae’r cynllun hwn yn ddewisol fel yn achos cynlluniau’r sefydliadau amddiffyn a chynllun Lloegr.
  • Ein nod yw datrys unrhyw hawliad am iawndal a gyflwynwyd gan glaf ynghylch ei ofal clinigol o dan y GIG mor deg ac mor gyflym â phosibl. Yn yr un modd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd amddiffyn hawliadau’n gadarn lle y bo'n briodol ac amddiffyn meddygon teulu, eu staff a’u henwau da.
  • Mae ein Canllawiau ar y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yn esbonio manylion y cynllun, gan gynnwys:
    • cwmpas y cynllun
    • aelodaeth o'r cynllun (gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer meddygon teulu locwm sy'n  dymuno manteisio ar y cynllun)
    • sut a phryd i gysylltu â ni os byddwch yn derbyn hawliad, neu os byddwch yn cael eich hysbysu am  honiad am esgeulustod neu os byddwch yn dod yn ymwybodol o fater a allai arwain at hawliad, neu os hoffech drafod unrhyw achos posibl o dor-dyletswydd neu atebolrwydd
    • pwysigrwydd sicrhau indemniad proffesiynol priodol gyda sefydliad amddiffyn meddygol ar gyfer yr elfennau hynny o’ch practis nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cynllun.
  • Nodir gwybodaeth fanwl ar gyfer meddygon teulu a'u staff meddygaeth gyffredinol yn Atodiad A.
  • Mae gofynion penodol ar gyfer meddygon teulu locwm wedi'u nodi yn Atodiad B. Mae gweithredu Atodiad B yn amodol ar y cyfathrebiad a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2020 (yr Is-Atodiad i Atodiad B) sydd i'w weld yma.
  • Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am Atodiad B at Dîm Gwasanaethau Cyflogaeth PCGC trwy e-bost at: NWSSP.PrimaryandCommunityCareSustainability@wales.nhs.uk
  • Mae'r ffurflen gyswllt yma i'w lawrlwytho Atodiad C.
  • Gellir dod o hyd i gwestiynau cyffredin ynghylch y cynllun yma.
  • Byddwn yn nodi ac yn adrodd yn ôl am faterion risg ar gyfer gwella dysgu a diogelwch ym maes gofal sylfaenol.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau ac os hoffech drafod hyn gydag aelod o'n tîm, gweler ein manylion cyswllt isod.

 

Cynllun Atebolrwyddau Presennol (ELS) Cymru

Fe'n cyfarwyddwyd gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r Cynllun Atebolrwyddau Presennol ar gyfer hawliadau esgeulustod clinigol cymwys a wneir yn erbyn meddygon teulu a phobl eraill sy'n gweithio mewn lleoliad ymarfer cyffredinol o ganlyniad i weithred neu anwaith a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019.

Mae'r Cynllun hwn ar gael dim ond pan fydd y sefydliad amddiffyn meddygol (a fyddai fel rheol wedi darparu'r indemniad) wedi sicrhau cytundeb i drosglwyddo'r atebolrwyddau hyn i'r Cynllun.

Hyd yma, dim ond MDDUS ac MPS sydd wedi sicrhau cytundeb o'r fath. Mae'r holl hawliadau cymwys sydd gan MDDUS ac MPS wedi'u trosglwyddo i'r Cynllun a dylech gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau.

Mae ein Canllawiau Cynllun Atebolrwyddau Presennol yn nodi manylion llawn y cynllun a'r hyn sy'n cael ei gynnwys.

Os hysbysir unrhyw aelodau MDDUS ac MPS o hawliad newydd neu hawliad posibl yn deillio o weithred neu anwaith a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019, dylid ein hysbysu o hyn gan ddefnyddio Atodiad A.

Dylai aelodau pob sefydliad amddiffyn meddygol arall barhau i gysylltu â'r sefydliadau hynny mewn perthynas â hawliadau esgeulustod clinigol hyd nes y clywir yn wahanol.

Mae rhagor o wybodaeth i feddygon teulu a phractisiau meddygon teulu am Gynllun Atebolrwyddau Presennol Cymru wedi'i nodi yng Nghwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru yma Cwestiynau Cyffredin CAP

 

Cysylltwch â ni

Drwy e-bost:          

Ar gyfer hawliadau esgeulustod clinigol ar ôl 1 Ebrill 2019 – GMPI@wales.nhs.uk

Ar gyfer hawliadau esgeulustod clinigol cyn 1 Ebrill 2019 – ELS@wales.nhs.uk

Dylech esbonio sail eich ymholiad a bydd Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg naill ai’n ymateb drwy e-bost neu drwy ffonio i drafod y mater ymhellach.

Neu

Dros y ffôn – ffoniwch linell gymorth Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ar 029 21 500 554  yn ystod oriau gwaith arferol 9.00am–5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Ar gyfer meddygon teulu locwm:

Os ydych chi'n Feddyg Teulu Locwm ac yn dymuno cael mynediad at y Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol a gefnogir gan y wladwriaeth, cysylltwch ag Is-adran Gwasanaethau Cyflogaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a all roi cyngor ar y broses ymgeisio:

E-bost: NWSSP.PrimaryandCommunityCareSustainability@wales.nhs.uk

Website: https://pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-cyflogaeth/cynaliadwyedd-gofal-sylfaenol/ 

 

Chwiliwch Gofrestr

Meddygon Locwm Cymru Gyfan